Croeso i CAFMaD
Sefydlwyd y Ganolfan ar gyfer Deunyddiau a Dyfeisiadau Swyddogaethol Uwch (CAFMaD) ym mis Medi 2006 yn fenter ar y cyd rhwng Prifysgolion Aberystwyth a Bangor. Roedd hynny'n rhan o Brosiect Ad-drefnu a Chydweithredu gwerth £11M a ariannwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Cafodd CAFMaD £2.9M i ariannu pum mlynedd cyntaf ei gwaith, gyda'r nod o ddatblygu rhaglen gwyddoniaeth a pheirianneg o safon fyd-eang yng Nghymru.
Daeth aelodau'r Ganolfan at ei gilydd o Sefydliad y Gwyddorau Mathemategol a Ffisegol (IMAPS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac o Ysgol Cemeg ac Ysgol Electroneg Prifysgol Bangor.
Meysydd Ymchwil
Rhannwyd arbenigedd ac adnoddau CAFMaD i bedwar maes ymchwil eang:
Y nod oedd bod yr ymchwil honno yn cael ei chynnal ar sylfaen y dulliau nodweddu a modelu diweddaraf.
Mae gweithgareddau cydweithredol y ganolfan wedi'u dirwyn i ben ers i'r Bartneriaeth Ymchwil a Menter ddod i ben, ond mae Cynghrair Strategol Aber-Bangor yn dal i ddarparu fframwaith cydweithredol ar gyfer gwaith cydweithredol ar sail prosiectau unigol.